Seion Baptist Chapel - Llanberis (1905)



That is what we have been singing and praying for the last four months in Seion, and have had prayer meetings when the spirit could be felt in them as a living thing, the brothers and sisters full of fire, thanking God for visiting our country and beseeching the Spirit to enter more plainly into our midst, and to God, who disappoints no-one who turns to him in truth be the thanks and the glory for giving some drops to those of us at the foot of Snowdon. We can say that our little church has experienced revival in all its parts, the Sunday School has increased greatly, and on top of everything, some have enlisted for the first time under the banner of Jesus. On the evening of Wednesday, February 15th, our dear brother Mr Griffiths, a student from Bangor, was here baptising 8 brothers and sisters, one brother who had been long battling with the enemy, undecided for some weeks, but he came forward in the end, to the joy of us all. Among those baptised were two from the Methodists, one from the Church of England, but brought up in Seion, an excellent brother. The next Sabbath we shall be admitting 10 as full members. The prayer meetings continue, some united; also, we expect the dear brother, the Rev. R. B. Jones here soon under the auspices of all the churches of the area.

10th March 1905, Seren Cymru

Additional Information

Dyna yr hyn ydym wedi bod yn ganu a gweddio am y pedwar mis diweddaf yn Seion, ac wedi cael cyfarfodydd gweddi ac yspryd y peth byw i'w deimlo ynddynt, y brodyr a'r chwiorydd yn llawn tan yn diolch i Dduw am ymweled &'n gwlad ac erfyn am i'r Yspryd ddod yn fwy amIwg i'n plith ninnau, ac i'r Duw nad yw yn siomi neb sydd yn troi ato mewn gwirionedd y byddo y diolch a'r gogoniant am roddi rhai defn ynau i ninnau wrth droed y Wyddfa. Gallwn ddweyd fod ein heglwys fach wedi cael adfywiad yn ei holl adranau, yr Ysgol Sul wedi cynnyddu yn fawr, ae yn ben ar y cwbl, y mae yma rai o'r newydd wedi listio dan faner Iesu. Nos Fercher, Chwefror 15fed, bu y brawd anwyl Mr Griffiths,  myfyriwr o Bangor yma yn bedyddio 8 o frodyr a chwiorydd, un brawd fu yn hir yn ymladd a'r gelyn, er's rhai wythnosau yn cloffi rhwng dau feddwl, ond daeth yn mlaen ar y diwedd, er llawenydd i ni oil. Yn mhlith y rhai fedyddiwyd yr oedd dau oddiwrth y Methodistiaid, un o Eglwys Loegr, ond wedi ei fagu yn Seion, brawd rhagorol. Y Sabboth nesaf byddwn yn derbyn 10 yn gyflawn aelodau. Mae y cyfarfodydd gweddi yn parhau, rhai undebol; hefyd, yr ydym yn disgwyl y brawd anwyl y Parch R. B. Jones yma yn fuan o dan nawdd holl eglwysi yr ardal. 

10th March 1905, Seren Cymru


Related Wells