Salem Welsh Baptist Chapel - Pentrefelin (1905)



Additional Information

Gyda llawenydd y dymunem hysbysu darllenwyr y SEREN fod y dylanwadau Dwyfol wedi eu teimlo yn rymus iawn yn y ddau ie uchod. Y mae y llanw wedi dechreu llifo i fewn er ys dau fis, a diolch para i lifo y mae o hyd, fel y mae llawer hen lestr fu'n gorwedd ar dywod sychion traeth gwrthgiliad yn anobeithiol erbyn hyn yn dechreu nofio am y porthladd dymunol. Yn Eglwysbach y mae pobl o bob oed wedi troi i fewn i'r eglwys, niter yr ymgeiswyr am fedydd yw 14, a'r gwrthgilwyr 6; cyfanswm, 20. Sul bythgofiadwy i ni oedd y Sul diweddaf yn Fforddlas. Ymgynnullodd torf anferth na welwyd erioed ei maint i'r lie i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu ar 23 o ddeiliaid. Gwelsom yma bobl wedi cyrchu yn nghyd o'r holl wlad o amgylch y Gonwy, megis o Penmaen- mawr, a Chonwy, a Llanduduo, a'r Junction, a Colwyn, a Colwyn Bay, a Llanelian, a'r Codau, ac Eglwysbach, a Roewen, &c. Yr oedd wedi tori allan yn orfoledd, a llawer yn methu gwybod pa un ai yn y nefoedd ynte ar y ddaear yr oeddynt. Niter yr oll yn Fforddlas yw 30, ac y mae ereill o flaen yr eglwys. Felly y mae yr ychwanegiadau cydrhwng Eglwysbach a Fiorddias yn 50. Dioich i Dduw.

3rd March 1905, Seren Cymru


Related Wells