Ebenezer Methodist Chapel - Ystumtuen (1905)




I can say that the Revival goes forward with conviction here. It is clear from the meetings that the Spirit of God is leading the movement in an excellent way. We have been, and still are, holding prayer meetings every night for weeks now and continues to do so. But we felt that the Spirit closer to us last week than at any time previously. On Monday, February 13th, there was a prayer meeting here which ended about half past eight. But suddenly, before that the light had been extinguished, some of the young people, about 14 of them, came back into the chapel, and it was obvious that something was leading them back. They began singing “Blood of the Cross," and it was felt that the Spirit of God was working like electricity from heart to heart through them all. Nobody who was there will ever forget the meeting this side of the grave. All sang with all their hearts and all began praying, one sister for the first time ever, and all were longing for the privilege of addressing the Throne. That is where we were until eleven o'clock. It was a blessed meeting, with no elder nor minister nor anyone to lead it but God's Spirit. It was like some small heaven there that night. On Tuesday evening it was very evident that the Spirit of God was there from the beginning, moving through the congregation until the end of the meeting. We heard one sister addressing the Throne at this meeting. And we are hearing new harps here every evening this week. And I can say that the number of people praying publically has greatly increased in Ystumtuen, and there are now 50 here while previously there were only 8 or 9. We have been holding a series of meetings in dwelling houses throughout the area, and we felt that the Lord was very close to us in some of them, strengthening his children in an excellent way. Moreover the number of people praying in public has greatly increased in Horeb and Bethel too. At Horeb there were previously only three or four who used to pray in public, but now there are about twenty, and at Bethel there are about twelve, where previously there were only four. Yes, the Revival has done great work here already, but we believe somehow that it is still in its infancy.  We have had many new intercessors and the old ones, though there were but few of them, have been touched with the flame, have had new prayers and draw the heavens closer than before. I can say that many a home here has been consecrated with prayers, and the family have been transformed to be more like the little family of Bethania, and the prayer is "Onward, heavenly fire".

Y Cymro - 9th March 1905.

Additional Information

Gallaf finau ddweyd mai myned rhagddo gydag arddeliad y mae y Diwygiad yma. Ac ymae yn amlwg oddiwrth y cyfarfodydd fod Ysbryd Duw yn arwain y mudiad yn ardderchog. Yr ydym wedi bod yn cynal cyfarfodydd gweddio ac yn parhau o hyd bob nos er's wythnosau bellach. Ond yr ydym wedi teimlo fod yr Ysbryd yn fwy agos atom yr wythnos ddiweddaf nag anwaith o'r blaen. Nos Lun, Chwefror 13, yr oedd yma gyfarfod gweddio ac fe derfynwyd tua haner awr wedi wyth. Ond cyn fod y goleuni wedi ei roddi allan, wele rai o'r bobl ieuainc yn dyfod yn ol i'r capel, tua 14 mewn nifer, ac yr oedd yn amlwg fod rhywbeth yn eu harwain yn ol. Dechreuwyd canu Gwaed y Groes," ac fe deimlwyd fod Ysbryd Duw yn gweithio fel trydan o galon i galon drwyddynt i gyd. Fe gafwyd cyfarfod na ddileir mo hono oddiar gof y rhai oedd yno y tu yma I angau a'r bedd. Yr oedd pawb yn canu â'u holl galon ac fe aeth pob un i weddi, ac un chwaer am y tro cyntaf erioed, ac yr oedd pob un yn hiraethu am gael y fraint o gyfarch yr Orsedd. Ac yno y buom hyd unarddeg. Yr oedd yn gyfarfod bendigedig, heb na blaenor na gweinidog na neb i lywyddu ond Ysbryd Duw. Yr oedd fel rhyw nefoedd fach yno y noson hono. Nos Fawrth yr oedd yn amlwg iawn fod Ysbryd Duw yno ar y dechreu ac yn symud drwy y gynulleidfa hyd derfyn y cyfarfod. Clywsom un chwaer yn cyfarch yr Orsedd yn y cyfarfod hwn. Ac yr ydym yn clywed telynau newydd bob nos yma yr wythnos hon. A gallaf ddweyd fod nifer y gweddiwyr cyhoeddus wedi cynyddu yn fawr yn Ystumtuen, y mae yma 50 tra nad oedd ond 8 neu 9, o'r blaen. Yr ydym wedi bod yn cynal cyfres o gyfarfodydd mewn anned ddat ar hyd yr ardal, ac yr oeddem yn teimlo fod yr Arglwydd yn agos iawn atom mewn rhai o'r rhai hyny, ac yn nerthu ei blant yn ardderchog. Yn ychwanegol at hyn y mae nifer y gweddiwyr cyhoeddus wedi cynyddu yn fawr yn Horeb a Bethel hefyd. Yn Horeb nid oedd ond tri neu bedwar o'r blaen yn gweddio yn gyhoeddus ond nawr y mae yno tuag ugain, ac yn Bethel y mae tua deuddeg tra nad oedd ond o'r blaen. Ydyw y mae y Diwygiad wedi gwneud gwaith mawr yma eisoes, ond yr ydym yn credu rywsut mai yn ei fabandod y mae o hyd. 

Y Cymro - 9th March 1905.


Related Wells